Proverbs 9

Doethineb a Ffolineb

1Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ;
ac mae wedi naddu saith colofn iddo.
2Mae hi wedi paratoi gwledd,
cymysgu'r gwin,
a gosod y bwrdd.
3Mae hi wedi anfon ei morynion allan
i alw ar bobl drwy'r dre.
4Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,
“Dewch yma, chi bobl wirion!
5Dewch i fwyta gyda mi,
ac yfed y gwin dw i wedi ei gymysgu.
6Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw;
dechreuwch gerdded ffordd gall.”
7Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a cei lond ceg!
Cerydda rhywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin.
8Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di;
ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.
9Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach;
dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.
10Parchu'r Arglwydd ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth,
ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.
11Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir;
byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol.
12Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti;
ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau.

Ffolineb yn galw

13Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn;
mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.
14Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,
neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.
15Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibio
ac yn meindio eu busnes eu hunain.
16Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,
“Dewch yma, chi bobl wirion!
17Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys;
a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”
18Ond dŷn nhw ddim yn sylweddoli mai byd yr ysbrydion sydd y ffordd yna,
a bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad yn gwledda yn y bedd!
Copyright information for CYM